Y Porth
Y Porth yw’r porth strategol i’r parc sy’n darparu cyfle datblygu wedi’i glirio a’i wasanaethu ar gyfer cynllun defnydd cymysg gyda’r gallu i ddarparu hyd at 200,000 troedfedd sgwâr o ddefnyddiau swyddfa, gwesty, manwerthu ac ystafelloedd arddangos ar tua 17 erw (6.88 hectar) o dir.
Y Porth
Cyfle datblygu defnydd cymysg ar gyfer ystod eang o ddefnydd yn cynnwys swyddfeydd, gwestai, manwerthu ac ystafelloedd arddangos.
17 erw o dir wedi’i glirio a’i wasanaethu yn barod ar gyfer ei ddatblygu
Porth i safle cyflogaeth mawr
Delfrydol ar gyfer defnydd cyfleustodau i wasanaethu safle ehangach Bro Tathan
O fewn 5 milltir i Faes Awyr Caerdydd
Yn agos i bencadlys Aston Martin
Statws Parth Menter
Y Porth – Cam 1
Cam 1 yw’r gwaith datblygu mawr cyntaf ym Mro Tathan yn dilyn cyrhaeddiad Aston Martin ac agor Ffordd Bro Tathan.
Cyfle datblygu wedi’i glirio a’i wasanaethu sy’n cynnwys tua 1.6 erw (0.66 hectar) o dir.
Nodir Cam 1 yn y Briff Datblygu ar gyfer y defnyddiau canlynol:
Gwesty (C1)
Gwesty 60 ystafell wely a darpariaeth bwyd a diod hyd at 4 llawr. Mae disgwyl i’r gwesty fod yn adeilad tirnod ym mynedfa Bro Tathan.
Manwerthu/Hamdden (A1/A3)
Nodir yn y Briff Datblygu ar gyfer un adeilad yn cynnig tua 6,000 troedfedd sgwâr (557m2) o ofod manwerthu/hamdden gyda’r opsiwn i’w is-rannu’n 4 uned 1,500 troedfedd sgwâr. Byddai’r gofod manwerthu yn addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnydd gan gynnwys siop cyfleustra, becws, gwerthwr bwyd bychan a/neu siop goffi.
Byddai elfen o barcio blaengwrt ar y plot yn dderbyniol ond gellir darparu darpariaeth ychwanegol mewn cwrt parcio pwrpasol sy’n rhan o ddatblygiad Y Porth a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru.