Maes Glanio Sain Tathan

Newyddion a Diweddariadau


Diwrnod o hwyl i'r teulu a hedfan i mewn

Dydd Sadwrn 7 Medi 2024 1200L – 1500L Dewch i ymuno â ni ar gyfer ein Diwrnod Hwyl i'r Teulu blynyddol a Hedfan i Mewn ym Maes Awyr Sain Tathan

I bawb

  • Arddangosfa Awyrennau Statig, cyfle i weld amrywiaeth o awyrennau

  • Teithiau o Amgylch y Safle, gan gynnwys taith mewn cerbyd ar hyd y rhedfa

  • Ymweliad â'n Gorsaf Dân

  • Pryd a diod ar ôl cyrraedd

Ar gyfer Hedfan i Mewn

  • Dim ffioedd glanio a dim ond £5 o ffi trefnu

  • Gall awyrennau gyrraedd o 11:00L ymlaen

  • PPR ymlaen llaw drwy stathan.ops@cwl.aero

  • Pryd a diod ar ôl cyrraedd

I'r plantos neu'r plant mawr yn ein plith

  • Llithren Wynt, Castell Neidio a Golau Pêl-droed Gwynt

  • Pryd a diod ar ôl cyrraedd

  • Candifflos/Melysion


Ar y cyd â'r Gymdeithas Gweithredwyr Maes Awyr (AOA)


Cymerodd Maes Awyr Sain Tathan a Maes Awyr Cymru Caerdydd ran yn
Wythnos Diogelwch AOA y DU 13 – 19 Mai 2024

Dyma’r digwyddiad diogelwch maes awyr mwyaf a gynhelir yn y DU, a’r prif nod yw dangos bod diogelwch yn brif flaenoriaeth. Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio i rannu gwybodaeth a phrofiadau drwy lawer o weithgareddau cysylltiedig ar themâu penodol ac i ddatblygu ymwybyddiaeth.

Mae ein Fideo Diogelwch “Save Tomorrow with Safety Today” yn dangos cyfranogiad ac ymroddiad ein timau i Ddiogelwch, ar draws y ddau faes awyr!

Cliciwch yma i'w weld!


Her Codi Arian

Dydd Gwener 19 Ebrill 2024

Cwblhaodd grŵp o 4 Rheolydd Traffig Awyr o’r Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol (NATS) her codi arian drwy reidio beiciau modur i bob un o’r 24 Canolfan/Uned Datrysiadau NATS mewn 24 diwrnod, yn amrywio o Aberdeen i Gibraltar. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn er cof am gydweithiwr a fu farw a'i nod oedd codi arian at elusen a chodi ymwybyddiaeth o Ganser y Prostad a'r elusen Aerobility.

Croesawodd Maes Awyr Sain Tathan y grŵp gan gynnig cyfle iddynt feicio ar hyd ein rhedfa 1828m a chael eu cyfarch â Bwa Dŵr gan Wasanaeth Tân Maes Awyr Cymru Caerdydd. Derbyniwyd y cynnig yn eiddgar!

Yn ddiarwybod i dri o’r beicwyr, roeddem wedi cysylltu â Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS) a threfnu iddynt ddilyn y grŵp ar hyd y rhedfa, er syndod mawr i'r beicwyr, gan arwain at y llun gwych uchod!

Da iawn bawb!


Taith feicio epig 800 milltir

Dydd Sul 10 Medi 2023

Cwblhaodd Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS) daith feicio epig 800 milltir er mwyn codi arian i gydweithiwr gael Triniaeth Canser dramor.

 Cwblhawyd milltir olaf eu taith codi arian ar ein rhedfa, gyda 3 beiciwr, 1 cerbyd cymorth, 1 cerbyd heddlu a Hofrennydd yr Heddlu yn dilyn mewn gorymdaith ysblennydd.

Cafodd y grŵp eu cyfarch â Bwa Dŵr gan Wasanaeth Tân Maes Awyr Cymru Caerdydd a gafodd ei werthfawrogi'n fawr.