Maes Glanio Sain Tathan
Hyfforddiant
Mae angen i awyrennau sy'n ymweld sy'n dymuno cynnal hyfforddiant yn Sain Tathan gael brîff gofod awyr gan y Gwasanaeth Rheoli Traffig Awyr cyn dechrau ar unrhyw hyfforddiant. Cysylltwch â Gwasanaeth Rheoli Traffig Awyr Sain Tathan 01446 243940.
Mae’n rhaid bod gan bob awyren sy’n dymuno dilyn hyfforddiant offeryn ym Mharth Caerdydd drawsatebwr gweithredol gyda Modd C.
Mae hyfforddiant ar offer gan gynnwys ymarferion dargyfeirio (PDs) yn amodol ar PPR drwy gysylltu â stathan.ops@cwl.aero.
Cyfrifoldeb gweithredwyr awyrennau yw archebu sesiynau hyfforddi a dylent wneud hynny drwy ffonio Gwasanaeth Rheoli Traffig Awyr Caerdydd (yr uned radar dynesu).
Rhif ffôn: 01446-712562
Gwybodaeth allweddol
Oriau agor cyhoeddedig
09:00-17:00L Llun-Sul
Mae modd gweithredu y tu allan i'r oriau hyn, fodd bynnag, rhaid i geisiadau ddod i law o leiaf 48 awr ymlaen llaw.
Dolen i'n AIP
Mae Maes Awyr Sain Tathan yn gweithredu ar sail 'Angen Caniatâd Ymlaen Llaw' (PPR) yn unig
Rhaid i bob awyren sy'n ymweld gael gwesteiwr/noddwr (gweler Cysylltiadau rhanddeiliaid)
Caniateir traffig IFR a VFR.
Radio
Rhaid i awyrennau gael radio er mwyn hedfan i Faes Awyr Sain Tathan.
Amledd Tŵr Sain Tathan yw 122.865MHz
Mae Tîm Tân y Maes Awyr, yn darparu RFFS CAT 4 yn ystod oriau gweithredu cyhoeddedig, fodd bynnag, gellir codi hyn i CAT 5,6,7 ar gais, gyda dim llai na 48 awr o rybudd
Mae tanwydd Jet A1 ac Avgas ar gael.