Maes Glanio Sain Tathan
Trosolwg
Wedi'i leoli ym Mharc Busnes Bro Tathan i'r Gorllewin o Ddinas Caerdydd
Mae'n edrych dros arfordir De Cymru sy'n ei wneud yn lle gwych i hedfan, gyda golygfeydd godidog a llu o lefydd prydferth i ymweld â nhw
Mae Maes Awyr Sain Tathan 3 milltir i’r gorllewin o Faes Awyr Cymru Caerdydd
Y Gorffennol a'r Presennol
Sain Tathan oedd safle mwyaf yr Awyrlu Brenhinol yn y DU, ac arferwyd ei alw'n Awyrlu Brenhinol Sain Tathan, neu'n symlach RAF Sain Tathan. Roedd yn un o unedau mawr y Weinyddiaeth Amddiffyn ger pentref Sain Tathan.
Darparodd yr Orsaf wasanaeth cynnal a chadw am flynyddoedd lawer, a hynny ar amrywiaeth o awyrennau dros y blynyddoedd, gan gynnwys; Canberra, Buccaneer, F4 – Phantom, Victor, Vulcan, Jaguar, Tornado yn ei holl ffurfiau, VC10, Hawk a Harrier.
Bu'r ganolfan yn gartref i Ysgol Hyfforddiant Technegol Rhif 4 RAF drwy gydol ei hoes, yn ogystal â bod yn uned bwysig ar gyfer cynnal a chadw awyrennau. Mae Maes Awyr Sain Tathan hefyd wedi bod yn gartref i unedau'r Fyddin Brydeinig, gan gynnwys Bataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig.
Ar un adeg roedd yn gartref i gasgliad mawr o awyrennau hanesyddol.
Mae casgliad mawr o awyrennau hanesyddol bellach i’w gweld yn Amgueddfa Awyrennau De Cymru (SWAM) yn Picketston, https://www.swam.online/ ger Maes Awyr Sain Tathan, ac mae ymweliad â’r amgueddfa wedi’i gynnwys yn ein rhaglen i ysgolion a'r gymuned leol ym Maes Glanio Sain Tathan.
Yr unig sgwadron sy'n dal i weithredu o Sain Tathan yn rheolaidd yw Sgwadron Awyr Prifysgolion Cymru (UWAS) (un o bedwar ar ddeg o Sgwadronau Awyr Prifysgol yr Awyrlu Brenhinol), sy'n hedfan awyrennau Grob Tutors.
Rhwng mis Mai 1947 a mis Awst 1973, roedd Sain Tathan hefyd yn gartref i Ysgol Hyfforddi Prentisiaid Gweinyddol, gan ddarparu rhaglen hyfforddi 20 mis ar gyfer newydd-ddyfodiaid a oedd wedi ymrestru i fod yn glercod neu i weithio yn y meysydd cyfrifyddiaeth, cyflenwi a gweinyddol, cyn cael eu hanfon i unedau RAF eraill am gyfnod o 12 mlynedd o wasanaeth.
Dynodwyd Sain Tathan yn safle ar gyfer academi hyfforddiant amddiffyn newydd y Deyrnas Unedig, ond cafodd y rhaglen ei chanslo yn 2010. Cafodd trwydded maes awyr y safle ei throsglwyddo o drwyddedu milwrol i drwyddedu sifil ar 1 Ebrill 2019. Mae’n eiddo’n gyfan gwbl i Lywodraeth Cymru, yn cael ei weithredu gan Faes Awyr Cymru Caerdydd ac yn cael ei adnabod fel Maes Awyr Sain Tathan, sydd wedi’i leoli ym Mharc Busnes Bro Tathan.
Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan yn parhau i fodoli, gan gynnwys ardal y barics sydd wedi'i wahanu oddi wrth Faes Awyr Sain Tathan ac sydd wedi'i leoli i'r Gorllewin o'r maes awyr.
Mae’r busnesau presennol sy’n gweithredu ym Maes Awyr Sain Tathan yn cynnwys Sgwadron Awyr Prifysgolion Cymru (UWAS), Horizon Aircraft Services ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio Awyrennau Cyffredinol ac ysgol hedfan Horizon, NPAS (Hofrennydd yr Heddlu), Bristow (hofrennydd Gwylwyr y Glannau), Swissport Fuel, Gwasanaeth Rheoli Traffig Awyr NATS, eCube, sef cwmni mawr sy’n datgymalu, cynnal a chadw, atgyweirio ac archwilio awyrennau a Caerdav, cwmni cynnal a chadw, atgyweirio ac archwilio awyrennau mawr, yn ogystal â Maes Awyr Cymru Caerdydd, y Gwasanaeth Tân, Diogelwch, Adran Goleuadau'r Maes Awyr a gweithrediadau’r Maes Awyr.
Mae rhai awyrendai, blocdai ac adeiladau hanesyddol o gyfnod milwrol y maes awyr yn dal i sefyll.
Gwybodaeth allweddol
Oriau agor cyhoeddedig
09:00-17:00L Llun-Sul
Mae modd gweithredu y tu allan i'r oriau hyn, fodd bynnag, rhaid i geisiadau ddod i law o leiaf 48 awr ymlaen llaw.
Dolen i'n AIP
Mae Maes Awyr Sain Tathan yn gweithredu ar sail 'Angen Caniatâd Ymlaen Llaw' (PPR) yn unig
Rhaid i bob awyren sy'n ymweld gael gwesteiwr/noddwr (gweler Cysylltiadau rhanddeiliaid)
Caniateir traffig IFR a VFR.
Radio
Rhaid i awyrennau gael radio er mwyn hedfan i Faes Awyr Sain Tathan.
Amledd Tŵr Sain Tathan yw 122.865MHz
Mae Tîm Tân y Maes Awyr, yn darparu RFFS CAT 4 yn ystod oriau gweithredu cyhoeddedig, fodd bynnag, gellir codi hyn i CAT 5,6,7 ar gais, gyda dim llai na 48 awr o rybudd
Mae tanwydd Jet A1 ac Avgas ar gael.